Canolfannau a chyfleusterau ymchwil

English | Cymraeg
Mae canolfannau ymchwil NERC yn rhoi arweinyddiaeth i gymuned gwyddor amgylcheddol y DU ac mae ganddynt rolau arwyddocaol a dylanwadol mewn cydweithrediadau gwyddonol rhyngwladol. Mae ein cyfleusterau ymchwil a'n canolfannau data yn galluogi gwyddonwyr y DU i gael mynediad i ystod fawr o adnoddau sy'n flaenllaw yn fyd-eang.
Canolfannau ymchwil
Mae canolfannau ymchwil yr NERC yn rhoi arweinyddiaeth i gymuned gwyddor amgylcheddol y DU ac mae ganddynt rolau arwyddocaol a dylanwadol mewn cydweithrediadau gwyddonol rhyngwladol. Mwy am y canolfannau ymchwil
Canolfannau data
Rydym yn cynnal chwe chanolfan ddata sydd, rhyngddynt, yn gyfrifol am reolaeth daliadau data amgylcheddol yr NERC yn yr hirdymor. Mwy am y canolfannau data
Cyfleusterau ymchwil
Mae ein gwasanaethau a'n cyfleusterau yn amrywio o blymio gwyddonol i awyrennau ymchwil, cyfrifiadura perfformiad uchel i ddyddio carbon, creiddio gwaddodion cefnfor dwfn i wybodaeth loeren. Mwy am ein cyfleusterau ymchwil
Llyfrgelloedd ac archifau
Mae ein llyfrgelloedd a'n harchifau yn cynnwys casgliadau ymchwil sylfaenol ac eilaidd cynhwysfawr yn ymwneud â'r gwyddorau amgylcheddol. Mae'r daliadau'n cael eu lledaenu ymysg y canolfannau ymchwil arbenigol niferus. Mwy am ein llyfrgelloedd ac archifau