Our site is using cookies to record anonymous visitor statistics and enhance your user experience.   OK | Find out more

Natural Environment Research Council Home
Skip to content

Ein strwythur

English | Cymraeg

Rydym yn ariannu ymchwil mewn prifysgolion ac yn ein chwe chanolfan ymchwil. Yr NERC sy'n berchen ar y rhain ac mae'r staff sy'n gweithio yno'n cael eu cyflogi gan yr NERC. Mae sawl canolfan arall o amgylch y wlad yn gweithio mewn partneriaeth â'r NERC i wneud ymchwil fel y bo angen. Mae hyn yn amrywio o ymateb cyflym i ofynion gwyddonol brys i raglenni buddsoddi strategol ac arolygon hirdymor.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys NASA, yr Undeb Ewropeaidd a'r Swyddfa Dywydd. Fel un o saith cyngor ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth, rydym hefyd yn cydweithredu â'r cynghorau eraill ar faterion o ddiddordeb i bawb o dan faner Cynghorau Ymchwil y DU.

Rydym yn darparu cyfleusterau yn cynnwys llongau ac awyrennau ymchwil, cyfleusterau dadansoddi, prosesu data lloeren, uwchgyfrifiaduron a chronfeydd o offer arbenigol.

Y data yr ydym yn ei gasglu trwy ymchwil yw ein hasedau mwyaf gwerthfawr. Rydym wedi sefydlu cyfres o ganolfannau data i'w cynnal a'u rheoli.

Swyddfa Swindon

Mae ein gweithgareddau cyllid, gweinyddol a chorfforaethol yn cael eu cynnal o'n swyddfeydd yn Swindon. Mwy am ein gwaith yn Swyddfa Swindon

Agenda tryloywder Trysorlys EM - Cyhoeddi data sefydliadol a staff

Er mwyn cefnogi agenda'r llywodraeth i gynyddu tryloywder y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario, mae NERC yn cyhoeddi manylion ei strwythur sefydliadol, staff uwch ac iau.  Mwy am ein data sefydliadol a staff

Related links