Our site is using cookies to record anonymous visitor statistics and enhance your user experience.   OK | Find out more

Natural Environment Research Council Home
Skip to content

About us

Photo: mountains and fog-filled valley

English | Cymraeg

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

NERC yw prif asiantaeth y DU ar gyfer ariannu a rheoli ymchwil, hyfforddiant a chyfnewid gwybodaeth yn y gwyddorau amgylcheddol.

Mae ein gwaith yn cwmpasu'r ystod lawn o wyddorau atmosfferig, y Ddaear, biolegol, daearol a dyfrol ac o'r pegynau i'r cyhydedd.

Rydym yn cydlynu rhai o brosiectau ymchwil mwyaf cyffrous y byd, gan fynd i'r afael â phrif faterion fel newid yn yr hinsawdd, dylanwadau amgylcheddol ar iechyd dynol, gwneuthuriad geneteg bywyd ar y Ddaear a llawer mwy.

Mae'r NERC yn gorff cyhoeddus anadrannol. Rydym yn derbyn tua £370 miliwn o gyllid blynyddol gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).

Gan weithio'n rhyngwladol, mae gennym ganolfannau yn rhai o'r mannau mwyaf gelyniaethus ar y blaned. Rydym yn cynnal fflyd o longau ac awyrennau ymchwil ac yn buddsoddi mewn technoleg loeren i fonitro newid amgylcheddol graddol ar raddfa fyd-eang. Rydym yn rhybuddio ymlaen llaw ynghylch y prif heriau amgylcheddol y mae cymdeithas yn eu hwynebu ac yn rhoi atebion iddynt.

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at economi gref yn y DU ac mae'n gwella bywydau pobl. Rydym yn annog cynnwys y cyhoedd yn y gwyddorau amgylcheddol a'r buddion a ddaw yn sgil hynny.

Cysylltwch â ni

Sut i gysylltu â ni. Sut i gyrraedd ein swyddfeydd. More

Related links

 

External links